Harbwr Trefor
Harbwr Trefor yw'r unig le, ar wahân i ddoc preifat Caer Belan, o ffewn ffiniau Uwchgwyrfai lle ceir cyfleusterau docio cychod. Bu Harbwr Trefor yn brysur iawn fel man allforio ithfaen Chwarel yr Eifl ac mae'n dal i roi lloches i ambell i gwch pysgota a chwch hwylio. Yn wreiddiol, morglawdd o gerrig a gysgodai'r harbwr a gweithredu fel glanfa, ond ym 1912, adeidsdwyd y Cei Pren; er i hwnnw gael ei adnewyddu ym 1986, erbyn 2018, roedd yn beryclus ac fe'i chwalwyd gan gontractwyr arbenigol Commercial Boat Services. Erbyn hyn, y morglawdd cerrig yw'r unig lanfa ar wahan i'r traeth, ond prin bod angen cyfeusterau bellach, a'r chwarel wedi hen gau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma