Mabinogion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:02, 14 Rhagfyr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwedlau'r Mabinogion yw un o brif ogoniannau ein llenyddiaeth fel Cymry. Chwedlau llafar oeddent i ddechrau ac yn cael eu trosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth cyn iddynt gael eu hysgrifennu ar femrwn (croen anifeiliaid wedi'i drin a'i sychu) yn y pen draw. Datblygodd y chwedlau hyn dros gyfnod maith iawn ac mae'n sicr fod gwreiddiau rhai ohonynt yn mynd yn ôl i'r cyfnod cyn-Gristnogol gan ymwneud â rhai o dduwiau'r Celtiaid a'u campau. Mae hynny'n arbennig o wir o ran y pedair chwedl a elwir yn Bedair Cainc y Mabinogi. Mae'n bosib fod fersiynau cynnar o'r chwedlau wedi cael eu hysgrifennu mor fuan â'r unfed ganrif ar ddeg, ond aeth y rhain yn golledig ers canrifoedd. Mae testunau o'r chwedlau wedi eu diogelu mewn nifer o lawysgrifau, ond ceir y casgliad helaethaf ohonynt yn y ddwy lawysgrif bwysig, Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest, a ysgrifennwyd oddeutu diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau'r bymthegfed ganrif. Mae'r Llyfr Gwyn yn un o brif drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, tra bo'r Llyfr Coch yn eiddo i Goleg Iesu, Rhydychen.

Mae angen gwahaniaethu rhwng y term Mabinogion a Mabinogi. Mae'r Mabinogion yn cynnwys un ar ddeg o chwedlau, sef Pedair Cainc y Mabinogi (chwedlau Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen ferch Llŷr, Manawydan fab Llŷr a Math fab Mathonwy), Breuddwyd Macsen Wledig, Cyfranc (sef Stori) Lludd a Llefelys, Culhwch ac Olwen, Breuddwyd Rhonabwy, Chwedl Iarlles y Ffynnon, Hanes Peredur Fab Efrog a Geraint Fab Erbin. Mae'r bedwaredd chwedl ym Mhedair Cainc y Mabinogi, sef Math fab Mathonwy, yn ymwneud â nifer o fannau yng nghwmwd Uwchgwyrfai - gweler yr erthyglau yn Cof y Cwmwd ar Pedwaredd Gainc y Mabinogi, Lleu Llaw Gyffes, Math fab Mathonwy a Dôl Bebin.

Os hoffech ddarllen chwedlau'r Mabinogion mewn Cymraeg diweddar graenus, mae'r gyfrol Y Mabinogion, Diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans, (Gwasg Gomer, 1980), yn rhagorol, ac yn y gyfrol ceir rhagymadrodd llawn a diddorol yn ymdrin â'r chwedlau gan Yr Athro Brynley F. Roberts.


Cyfeiriadau