Morris Roberts (Eos Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:10, 14 Rhagfyr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tad y Barch Ganon Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) oedd Morris Roberts (Eos Llyfnwy) (c1797-1876). Melinydd oedd o o ran ei alwedigaeth a dywedir mai fo, ynghyd â thri arall, a gododd y felin sy'n sefyll ar bwys y bont ym mhentref Y Bontnewydd. [1] Byddai hyn o gwmpas 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, gan ei fod yn wybyddus fod un o'r cyfranddalwyr at brydles y felin erbyn 1823 oedd Evan Richardson, y gweinidog o Gaernarfon.[2]

Mab ydoedd i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd) ac fe'i anwyd yn Llanystumdwy. Ym 1827, pan anwyd Ellis iddo a'i wraig Margaret, roedd y teulu'n byw yn Llwyn-y-gwalch, ger Y Groeslon, a dichon felly mai ef oedd melinydd Melin Llwyn-y-gwalch ar y pryd.[3]

Er ei fod yn fardd a fagodd ddigon o sylw i gael ei adnabod wrth ei enw barddol, ychydig a gyhoeddwyd o'i gyfansoddiadau. Serch hyn, mai'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 yn dweud ei fod wedi cyhoeddi Awdl Marwnad y Parch, Edward Jones, A.C. Curad Parhaus Llandegai... ym 1845 neu'n fuan wedyn.

Fe'i gladdwyd ym mynwent Mellteyrn, Pen Llŷn. Brawd iddo oedd Edward Morris a sefydlwyd yr achos Bedyddwyr Cymraeg ym Mirmingham.[4].


Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.131.
  2. LLGC Dogfnnau Profiant, B/1825/104/W
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.810
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.810