Melin Pengwern
Melin Pengwern oedd hen enw Melin Wnda ar Afon Rhyd. Dichon ei fod wedi bod ar un adeg yn eiddo i fferm fawr Pengwern tua hanner milltir ar draws y caeau. Mae map Ordnans milltir i'r fodfedd (1840-1) yn defnyddio enw "Melin Pengwern".