John Pughe

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:31, 22 Tachwedd 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mab i David Roberts a Catherine Pughe, Lleuar Bach, oedd John Pughe (c.1761-1802). Fe’i bedyddiwyd yn John Pughe Roberts ond erbyn iddo ddilyn ei dad fel ffermwr Lleuar Bach yr oedd yr enw Pughe wedi disodli’r cyfenw Roberts.

Daeth y John Pughe hwn yn drwm dan ddylanwad yr efengylwr, y Parch. Robert Roberts, Clynnog Fawr, ac yn groes i ddymuniad ei rieni ymaelododd yn eglwys ieuanc y Methodistiaid yng Nghapel Uchaf, Clynnog. Toc wedi i’r ddau droi eu deg r hugain oed fe welodd John Pughe a Robert Roberts ddiwygiad grymus yn y Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr yn 1793, a’r flwyddyn ddilynol, ar ôl ymweliad Thomas Charles o’r Bala â’r lle, fe sefydlwyd Ysgol Sul yno. Dylanwadodd y grymoedd crefyddol gryn dipyn ar weithredoedd beunyddiol gŵr Lleuar Bach.

Pan aeth hi’n anodd i Robert Roberts fynd i’w gyhoeddiadau pregethu oherwydd bod Colier, ei geffyl, yn rhy hen i’r teithiau, rhoddodd John Pughe gaseg winau hardd yn anrheg iddo. Anrhegai hefyd dlodion y plwyf â darnau o gig adeg y Nadolig.

Ond byr fu ei oes, ac er iddo fedru fforddio talu deugain punt am driniaeth yng Nghaernarfon gan Dr Rowlands o Gaer, bu farw yn un a deugain oed yn 1802. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, yn ddeugain oed, bu farw hefyd ei gyfaill mawr ysbrydol, y Parch. Robert Roberts.

Un o blant John Pughe oedd David Roberts Pughe. Priododd ag Elizabeth Williams o'r Chwaen Wen ym Môn, ac yn yr ardal honno y bu cartref y ddau am tua deunaw mlynedd. Yno y ganwyd eu tri phlentyn, Ioan ab Hu Feddyg (John Pughe), Dafydd ab Hu Feddyg (David William Pughe) ac Eliza. Ond yn 1829 dychwelodd David Roberts Pughe i'w blwyf genedigol pan gafodd denantiaeth Bachwen ger pentref Clynnog Fawr. [1] Yn nes ymlaen, bu i'r teulu fyw ym Mhrondirion.[2]

Cyfeiriadau

  1. Allan o Y Casglwr, Mawrth 1991, Rhifyn 43, t.10 dan y pennawd Mair Eluned Pritchard ar drywydd ab Hu Feddyg ac Anwylini.
  2. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), t.47