Ynys Gachu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:02, 20 Tachwedd 2020 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ynys o graig ysgithrog oddi ar Drwyn y Tâl (neu Glogwyn y Morfa) uwchlaw pentref Trefor yw Ynys Gachu, a elwir hefyd yn Ynys Fawr - gan fod craig gyffelyb, ychydig llai gerllaw a elwir yn Ynys Fach.

Mae'r "ynysoedd" hyn, sydd wedi eu herydu dros y blynyddoedd a'u gwahanu oddi wrth y clogwyn gan rym llanw a thrai a stormydd, wedi dod yn gynefin pwysig i amrywiaeth o adar y môr a'r arfordir. Gwelir sawl rhywogaeth o wylanod yma (gwylan benddu, gwylan gefn-ddu, gwylan lwyd a gwylan y penwaig), yn ogystal â mulfrain (neu filidowcars), gwylogod a llurs. Hefyd mae'r frân goesgoch brin yn cartrefu ar y creigiau hyn. Gyda'r fath niferoedd o adar yn cartrefu yno, yn arbennig yn ystod y cyfnod magu cywion, mae'r ynys wedi'i gorchuddio â'u baw llwyd-wyn, a dyna wrth gwrs darddiad yr enw Ynys Gachu.