Dwyfor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:27, 2 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dwyfor yw'r enw a roddwyd ar ardal llywodraeth leol a ddaeth i rym ym 1974, pan ffurfiwyd Cyngor Dosbarth Dwyfor. Tiriogaeth y cyngor hwnnw oedd Llŷn ac Eifionydd a hefyd plwyfi neu gymunedau Clynnog-fawr a Llanaelhaearn (gan rannu'r Uwchgwyrfai hanesyddol rhwng Arfon ac ardal newydd Dwyfor. O 1996 ymlaen, cadwyd yr un ardal fel rhaniad gweinyddol Cyngor Gwynedd.

Ni fu erioed cyn hynny tiriogaeth a enwyd Dwyfor - enw afon yw Dwyfor, sy'n llifo o fryniau Cwm Pennant i'r môr yn LLanystumdwy, i gyd yng nghwmwd Eifionydd, er i'w chwaer afon, y Ddwyfach, darddu yn y Seler Ddu, ger Hengwm ym mharthau uchaf plwyf Clynnog-fawr, cyn llifo heibio i bentref Pant-glas.