Afon Pontygelynnen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:29, 15 Tachwedd 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Pontygelynnen yn codi ar Ros y Pawl i'r dwyrain o fferm Caeronwy ac yn rhedeg mewn dyffryn bas tua'r de-orllewin cyn troi a rhedeg dan ffordd Nantlle - Rhyd-ddu tua hanner ffordd rhwng Ysgol Baladeulyn a Phont Gelliffrydiau. Enw'r bont, sef Pont y Gelynnen sydd yn rhoi'r enw i'r afon. Os oedd yna enw cynharach, nid oedd yn gyfarwydd i Twm Alun Williams, hanesydd pentref Nantlle.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans; Thomas Alun Williams, Afonydd Nantlle ar wefan Nantlle.com [1]