Afon Pontygelynnen
Mae Afon Pontygelynnen yn codi ar Ros y Pawl i'r dwyrain o fferm Caeronwy ac yn rhedeg mewn dyffryn bas tua'r de-orllewin cyn troi a rhedeg dan ffordd Nantlle - Rhyd-ddu tua hanner ffordd rhwng Ysgol Baladeulyn a Pont Gelli-ffrydiau. Enw'r bont, sef Pont Pont y Gelynnen sydd yn rhoi'r enw i'r afon. Os oedd yna enw cynharach, nid oedd yn gyfarwydd i Twm Alun Williams, hanesydd pentref Nantlle.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma