Afon Garth
Afon fechan sy'n rhedeg i mewn i Lyn Nantlle Uchaf yw Afon Garth. Dyma'r afon sy'n llifo dan Pont Baladeulyn yng nghanol pentref Nantlle. Mae un blaen-nant yn codi gerllaw Parc Colling ym mhen draw Y Fron, tra bod y prif nant yn codi yn Llyn Ffynhonnau uwchben Caeronwy ac yn llifo i lawr dyffryn bach bas heibio i ffermydd Caeronwy a Phen-y-garth.[1] Mae'r afon yn diflannu dan dipiau gwastraff Chwarel Pen-yr-orsedd ac mae rhai yn galw'r afon yn ei ddarn uchaf yn Afon Caeronwy, a dim ond y darn pan ddaw o'r tipiau ger bentref Nantlle yn Afon Garth.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma