Llyn Ffynhonnau
Llyn Ffynhonnau yw tarddiad Afon Garth sydd yn rhedeg i mewn i Lyn Nantlle Uchaf. Mae'r llyn mewn pant bach ar waelod llethrau gorllewinol Mynydd Mawr neu'r"Mynydd Grug", i'r dde o'r bwlch sydd yn croesi o bentref Y Fron i Glogwyn Cellog a Betws Garmon. Yn groes i lawer o lynnoedd Eryri, nid yw hwn yn llyn a ffurfiwyd ar ddiwedd Oes y Iâ mewn cwm rhewlifol, ond yn hytrach yn llyn mewn pant yn y mawndir.
Ar ochr dde-orllewinol y llyn mae clawdd neu sarn ar draws y man lle mae Afon Garth yn llifo o'r llyn, er bod peth tir rhwng y clawdd a'r llyn ei hun. Gellid cymeryd bod hyn yn arwydd o greu dam isel ar un adeg er mwyn dargyfeirio dwr i chwarel gerllaw, er nad yw'r pwrpas yn eglur erbyn heddiw.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
{{cyfeiriadau]]