Llwybr Arfordir Llŷn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:56, 1 Tachwedd 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Llwybr Arfordir Llŷn gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ar hyd arfordir Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn Aberdesach yn y Gogledd hyd Llanbedrog yn y De. Yn Uwchgwyrfai, mae'n dilyn y lôn beics ar ochr y briffordd o Aberdesach hyd Tan-y-graig, lle mae'n troi i lawr am bentref Trefor. Wrth gyrreadd y pentref, mae'n troi am y traeth a Harbwr Trefor cyn codi i fyny ar hyd Trwyn-y-tâl ac ymlaen ar hyd y clogwyni nes cyrraedd bwthyn West End. O'r fan honno, troir i'r dwyrain nes cyrraedd Sychnant a'r ffordd gefn o Drefor i Lanaelhaearn, cyn troi eto, am y mynydd heibio Cae'r Hafoty ac ar draws y llethr i'r de o'rmchwarel nes gyrraedd Bwlch yr Eifl lle mae'n croesi o Uwchgwyrfai i Gantref Llŷn.[1] Dylid nodi, serch hyn, bod y llwybr yn newid o bryd i'w gilydd, a dylid ceisio'r map diweddaraf sydd i'w gael ar daflen ar gyfer ymwelwyr.

Erbyn hyn, mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn yr un llwybr , wedi iddo gael ei agoryn llawn ym 2012, er bod yr opsiwn o ddringo dros Y Gurnau hefyd ar gael.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

Catergori: Daearyddiaeth ddynol

  1. Gwefan Llwybr Arfordir Cymru, [1], cyrchwyd 1.11.2020