Cyff Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:22, 1 Medi 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cyff Beuno yn enw ar hen gist 3 troedfedd 9 modfedd o hyd wedi ei cherfio o un darn soled o bren onnensydd i'w gweld mewn cas gwydr yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Mae hollt bach yn nhop y gist lle gellid rhoi arian at yr eglwys. Tan ganol y 19g roedd hi'n arfer gan ffermwyr y plwyf rhoi gwartheg gyda marc arbennig ar eu clustiau a elwid yn "nôd Beuno" i wardeiniaid yr eglwys a byddai'r swyddogion hynny wedyn yn eu gwerthu, a rhoi'r arian a gafwyd amdanynt yn y gist. Hefyd, fe wnaed cyfraniadau gan y rhai a oedd yn awyddus i brynu maddeuant am eu pechodau.[1]

Mae'r cloeon ar y gist yn dyddio o'r 16-17g., ond mae'r gist ei hun a'r strapiau haearn arni'n dyddio o'r canol oesoedd yn ôl pob tebyg.[2]

"Cyff Beuno" hefyd yw'r enw a roddodd Eben Fardd ar awdl o'i waith i nodi atgyweiriad Eglwys Clynnog Fawr ac hefyd yn deitl ar ei lyfr sydd yn ymwneud â hanes y fro - gan gynnwys yr awdl, ac a gyhoeddwyd yn Nhremadog wedi ei farwolaeth ym 1863. Mae'r awdl yn dal yn ddigon difyr a darllenadwy ac yn rhoi cip ar hanes Beuno Sant, yr eglwys a'r sefydliadau a oedd yn gysylltiedig â hi fel y canfyddid yr hanes mewn oes pan nad oedd ffynonellau dibynadwy ar gael i haneswyr yn gyffredinol. Mae gweddill y llyfr yn cynnwys nodiadau ffeithiol eu naws (yn ôl dealltwriaeth yr oes) ar bethau yr ymdrinnir â hwy yn yr awdl. Hefyd ceir manylion am enwogion y plwyf a'u hachau a nodweddion hanesyddol eglwys a phlwyf Clynnog Fawr. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys nodiadau gan Ioan ab Hu Feddyg am y bardd a'i "hynodion", sef cofiant a gwerthfawrogiad o Eben Fardd. Er rhaid cofio mai dros 150 oed yw'r llyfr a llawer o ymchwil hanesyddol wedi ei wneud ers hynny, gellid honni mai dyma un o weithiau cynnar pwysicaf ar hanes Uwchgwyrfai os nad hanes lleol yng Nghymru oherwydd ei flaengaredd a'r ymdrech i gofnodi hanes ffeithiol yr ardal. Mae'n barhau'n ffynhonell ddefnyddio hyd heddiw ar gyfer astudio hanes yr ardal.


Cyfeiriadau

  1. R.D. Roberts, Clynnog, its Saint and its Church, sef tywyslyfr i'r eglwys, c.1954
  2. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.39