Llanwnda (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:28, 27 Gorffennaf 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyn ffurfioli ffiniau plwyfi yn y 15-17g., roedd Uwchgwyrfai wedi ei rannu'n nifer o "drefi" neu drefgorddi, ac un o'r rhain oedd Llanwnda. nid ddylid, serch hynny, cymysgu ffiniau trefgordd LLanwnda efo'r plwyf diweddarach, gan fod y plwyf yn helaethach o lawer. Roedd trefgordd Llanwnda, weddol fach, yn fras o gwmpas ardal yr eglwys ei hun, gyda threfgordd Bodellog i'r gogledd a therfgorddi Rhedynog Felen a Dinlle i'r de a'r dwyrain.

Yr oedd y rhan fwyaf o drefgorddi'n gorfod talu gwrogaeth ac ardrethi i'r arglwydd lleol (sef y Tywysog), neu os oedd yr arglwydd wedi dewis trosglwyddo ei hawliau ar yr ardal, i'r sawl (abaty fel arfer) a oedd yn cael y budd o'r trosglwyddiant. Yn achos trefgordd Llanwnda, fodd bynnag, roedd yr esgob ym Mangor yn arglwydd arni ac yn derbyn pob budd a thaliad. Nis enwir Llanwnda yn Stent Uwchgwyrfai 1352, ond fe gynhwysir yn y gyfrol argraffedig, Record of Caernarvon,[1] stent ychydig yn gynharach (o 1335 yn ôl pob tebyg) o diroedd yr Esgob, ac yn y fan honno ceir manylion am dirdaliadaeth trefgordd Llanwnda.

Cyfieithiad o Stent Tiroedd Esgobaeth Bangor, 1335

Cantref Arfon
 Stent o Gwmwd Arfon a wnaed yn Llanbeblig ddydd Iau bymtheg diwrnod wedi [Gŵyl] Sant Mihangel yn chweched blwyddyn teyrnasiad tywysogaethol y Tywysog Edward. [1335] 
....
LLANWNDA
Mae Goronw’r caplan, Einion ei frawd, Cyfnerth eu brawd, Adaf ap Madog, Madog ei frawd, Gwion ap Cyfnerth, Madog ap Adaf, Gwenllian ferch Gwion, Dafydd ap Cyfnerth, Cyfnerth ei frawd, Llywarch ap Einion, Madog ap Iocyn, Adda ap Cyfnerth, Madog ei frawd, Cyfnerth ap Cad’, a Madog ap Cyfnerth yn dal 18 preswylfa a 12 bufedd o dir rhydd. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl y Disgyblion Philip a Jâms. Ac adeg yr un ŵyl, bara a menyn gwerth 2c.
Mae Gwyn ap Heilin, Goronw ei frawd, Heilin ap Heilin, Cyfnerth ap Einion, Ieuan ei frawd, Goronw ap Iocyn, Goronw ap Madog, Madog ap Cynwrig a Iorwerth ei frawd yn dal 9 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl y Disgyblion Philip a Jâms. Ac adeg yr un ŵyl, bara a menyn gwerth 2c. Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].
Mae Heilin ap Ieuan, Philip ap Iocyn, Cad’ ei frawd, Ieuan eu brawd, Ieuan ap Tegwared, Iorwerth ap Dafydd ac Ieuan ap Dafydd yn dal 9 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl y Disgyblion Philip a Jâms. Ac adeg yr un ŵyl, 2c. ar gyfer bara a menyn. Ac ebediw ac amobr fel uchod. [sic].
Mae Goronw Fychan, Madog ap Iorwerth, Madog ap Cynddelw, Madog ap Goronw, Adda ap Goronw ei frawd, Mabli ferch Cad’, Efa ei chwaer, Elen ferch Madog, Hag’ ei chwaer, Ieuan ap Philip, Einion ap Madog, Dafydd Rwth, Iocyn ei frawd, Goronw ap Adda, Tegwared ap Meurig, Ieuan ap Madog [?]o’r un gwely yn dal 17 preswylfa a 12 bufedd o dir. Ac maent yn cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl y Disgyblion Philip a Jâms. Ac adeg yr un ŵyl, 2c. ar gyfer bara a menyn, Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].
Mae Philip ap Cwellyn yn dal un breswylfa a 12 bufedd o dir. Ac mae o’n cyflwyno 2s. 8c. adeg Gŵyl yr Holl Saint. A 22c. adeg Gŵyl y Disgyblion Philip a Jâms. Ac adeg yr un ŵyl, 1c. ar gyfer bara a menyn. Ac ebediw ac amobr fel uchod [sic].
Cyfanswm 23s.3c., un rhan ar gyfer tymor yr Holl Saint [sef] 13s. 4c., ac ar gyfer tymor y Disgyblion Philip a Jâms, 9s. 11c.
....
RHAI Y RODDWYD TENANTIAETH IDDYNT (Tenantiaid Adfowri).
‘’’’
Yn nhrefgordd Llanwnda, y mae 11 tenant sydd wedi cael tenantiaeth trwy adfowri [sef nid trwy etifeddiaeth]. Ac maent yn cyflwyno 22c. adeg Gŵyl yr Holl Saint.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau}]

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.95-7