Llanwnda (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:44, 27 Gorffennaf 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyn ffurfioli ffiniau plwyfi yn y 15-17g., roedd Uwchgwyrfai wedi ei rannu'n nifer o "drefi" neu drefgorddi, ac un o'r rhain oedd Llanwnda. nid ddylid, serch hynny, cymysgu ffiniau trefgordd LLanwnda efo'r plwyf diweddarach, gan fod y plwyf yn helaethach o lawer. Roedd trefgordd Llanwnda, weddol fach, yn fras o gwmpas ardal yr eglwys ei hun, gyda threfgordd Bodellog i'r gogledd a therfgorddi Rhedynog Felen a Dinlle i'r de a'r dwyrain.