David Lloyd George

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:00, 27 Gorffennaf 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Er iddo fod yn ffigwr amlwg iawn yng ngwleidyddiaeth y sir - ac yn wir y wlad i gyd - prin oedd cysylltiadau uniongyrchol ac ymwneud David Lloyd George ag Uwchgwyrfai. Roedd ei hen daid, Richard David Lloyd (ganed 1772) yn hanu o blwyf Clynnog Fawr. Fe briododd ddwywaith a disgynnydd iddo a'i ail wraig, Elizabeth Roberts (g.1776) oedd David Lloyd Pritchard a aned ym 1800 yn Llanystumdwy. Fo oedd taid David Lloyd George. Fe briododd David Lloyd Pritchard â Rebecca Williams (merch William ac Elin Samuels) yn Nenio (Pwllheli) ym 1824.[1]

Fod bynnag, roedd Margaret ei wraig yn hanu o deulu Tyddyn Mawr, Llanaelhaearn, a phan oedd y ddau'n canlyn a theulu Margaret yn anhapus ynglŷn â'r berthynas, fe'i hanfonid at ei hewyrth oedd yn ffermio yn Llyn y Gele, Pontlyfni, am gyfnod yn y gobaith y byddai pellter yn oeri'r berthynas. Ysywaeth, ymwelodd Lloyd george â Margaret yno a dywedir mai ara risiau llofft ŷd Llyn y Gele y bu i'r ddau ddiweddïo.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth gan Ivor Gwyn
  2. Gweler erthygl ar Llyn y Gele am gyfeiriadau.