Clynnog (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:25, 22 Mehefin 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Clynnog yn enw ar un o drefgorddi cwmwd Uwchgwyrfai. Yn fras, roedd yn gorwedd i'r de o drefgorddi Pennarth a Bryncynan, ac i'r gogledd-orllewin o drefgordd Cwm. Roedd yna ddaliadau o dir caeth a rhydd o fewn ei ffiniau, ac awdurdodau sefydliad eglwysig Sant Beuno yng Nghlynnog oedd yn rheoli'r drefgordd, yn hytrach na swyddogion y Tywysog - er, yn nes ymlaen o leiaf, rhaid oedd cyflwyno peth ardreth i'r arglwydd lleyg a mynychu llysoedd ei swyddogion.

Cyfeiriadau