Clynnog (trefgordd)
Roedd Clynnog yn enw ar un o drefgorddi cwmwd Uwchgwyrfai. Yn fras, roedd yn gorwedd i'r de o drefgorddi Pennarth a Bryncynan (trefgordd)|Bryncynan]], ac i'r gogledd=orllewin i drefgordd Cwm. Roedd yna ddaliadau o dir caeth a rhydd o fewn ei ffiniau, ac awdurdodau sefydliad eglwysig Sant Beuno yng Nglynnog oedd yn rheoli'r drefgordd, yn hytrach na swyddogion y Tywysog - er, yn nes ymlaen o leiaf, rhaid oedd cyflwyno peth ardreth i'r arglwydd lleyg a mynychu llysoedd ei swyddogion.