Record of Caernarvon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:58, 10 Mehefin 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

The Record of Caernavon yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I, ac a gyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.[1] Efallai y rhan bwysicaf yw'r Extentae, sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves (Stent o Sir Gaernarfon a wnaed gan John de Delves); fe'i wnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopio oddi wrth llawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.

Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen hwyr) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes mwy academig (ymysg y deallusion) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd.

Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr[2] ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithaid yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfiithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Mae'n brosiect gan Gof y Cwmwd felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai o dipyn i beth, gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r bennawd Stent Uwchgwyrfai 1352 ac hefyd mewn erthyglau am y trefgorddi unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â;r cwmwd trefgordd wrth drefgordd).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838)
  2. A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" (Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn), (1971-2) tt.150-272