Dwyfor-Meirionnydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:38, 13 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dwyfor-Meirionnydd yw'r enw ar etholaeth ar gyfer ethodiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan. Fe'i ffurfiwyd mewn pryd ar gyfer etholiadau i'r Cynulliad yn 2007 a San Steffan yn 2010. Mae'n cynnwys Meirionnydd, Llŷn, Eifionydd, a chymunedau Clynnog Fawr a Llanaelhaearn yn Uwchgwyrfai.

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi dal y sedd Cynulliad/Senedd Cymru ers ffurfio'r etholaeth yn 2007. Safodd ym mhob etholiad fel ymgeisydd Plaid Cymru, ond bron yn syth ar ôl ei etholiad diwethaf ym 2016, ymddiswyddodd o Blaid Cymru gan eistedd fel aelod annibynnol, gan ei fod, meddai, yn awyddus i weld cydweithredu efo'r Blaid Lafur. Cafodd ei wneud yn ddirprwy weinidog yn fuan wedyn.

Dyma restr o'r aelodau seneddol San Steffan:

  • 2010 - 2015 Elfyn Llwyd (Plaid Cymru)
  • 2015 - Liz Saville-Roberts (Plaid Cymru)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau