Cwm Planwydd
Cwm ar ochr ddwyreiniog Mynydd Mawr yw Cwm Planwydd. Caiff ei enw o'r fferm ger ei waelod, sef Planwydd. Ar hyd ei waelod y mae Afon Goch yn rhedeg, ac ar ei ochr ogleddol, nid nepell o Lyn Cwellyn y mae craig fawr Castell Cidwm.
Nid oes fawr nodedig ynglŷn â'r cwm heblaw am yr olygfeydd trawiadol ar bob tu, ond ger ei ben uchaf y mae olion hen gorlan neu loc ar ffurf y llythyren 'D' er mwyn cadw anifeiliaid, ac sy'n dyddio o'r Canol Oesoedd.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma