Sir Gaernarfon (etholaeth)
Am yr holl gyfnod o sefydlu'r drefn o siroedd Cymru'n anfon aelod seneddol i San Steffan ym 1542, hyd 1885, Sir Gaernarfon oedd yr etholaeth a gynhwysai Uwchgwyrfai yn ei gyfanrwydd. Sir Gaernarfon oedd enw'r etholaeth eto rhwng 1918 a 1950. Rhwng 1885 a 1918, Eifion, sef hanner y sir, oedd yr etholaeth. Yn etholaeth 1929,safodd ymgeisydd seneddol cyntaf Plaid Cymru yn yr etholaeth hon, gan ennill 609 pleidlais.
Un aelod a etholwyd gan etholwyr Sir Gaernarfon, heblaw am gyfnod Cromwell yn y 1650au, pan etholwyd dau aelod dros yr etholaeth.
Aelodau seneddol 1542–1885
| Blwyddyn ethol | Aelod | Plaid |
|---|---|---|
| 1542 | ?John "Wynn" ap Maredudd | |
| 1545 | John Puleston | |
| 1547 | John Puleston, marw 1552 ac etholwyd John Wynn ap Maredudd yn ei le | |
| 1553 (Mawrth) | John Wynn ap Hugh | |
| 1553 (Hydref) | Morris Wynn | |
| 1554 (Ebrill) | Morris Wynn | |
| 1554 (Tachwedd) | David Lloyd ap Thomas | |
| 1555 | Sir Rhys Gruffydd | |
| 1558 | William Wynn Williams | |
| 1558–1559 | Robert Pugh | |
| 1563 (Ionawr) | Morris Wynn | |
| 1571 | John Wynn ap Hugh | |
| 1572 (Ebrill) | John Gwynne marw 1574 ac etholwyd William Thomas yn ei le | |
| 1584 | William Thomas marw 1586 | |
| 1586 | Syr John Wynn | |
| 1588 (Hydref) | Hugh Gwyn Bodvel | |
| 1593 | William Maurice | |
| 1597 (Hydref) | William Griffith | |
| 1601 (Medi) | William Jones | |
| 1604 | Syr William Maurice | |
| 1614 | Syr Richard Wynn | |
| 1621 | John Griffith | |
| 1624 | Thomas Glynn | |
| 1625 | Thomas Glynn | |
| 1626 | John Griffith | |
| 1628 | John Griffith | |
| 1640 (Ebrill) | Thomas Glynn | |
| 1640 (Tachwedd) | John Griffith (Cefnamwlch) a gafodd ei ddatgymwyso o'r Senedd, 1642 | |
| 1647 | Syr Richard Wynn | |
| 1653 (Senedd Barebones) | Neb wedi ei ethol | |
| 1654 (dau aelod) | Syr John Glynn + Thomas Madryn | |
| 1656 (dau aelod) | Syr John Glynn , wedyn Henry Lawrence (Llywydd y Cyngor); + Syr Robert Williams | |
| 1659 | Sir William Glynn | |
| 1660 | Syr John Glynn | |
| 1661 | Syr Richard Wynn | |
| 1675 | Robert Bulkeley, (2il Is-iarll Bulkeley wedyn) | |
| 1679 | Thomas Bulkeley | |
| 1689 | Syr William Williams | |
| 1697 | Thomas Bulkeley | |
| 1705 | [Syr John Wynn | |
| 1713 | William Griffith | |
| 1715 | John Griffith | |
| 1740 | Syr John Wynn | |
| 1741 | William Bodvell | |
| 1754 | Syr John Wynn | |
| 1761 | Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough | |
| 1774 | Thomas Assheton Smith I | |
| 1780 | John Parry | |
| 1790 | Syr Robert Williams | Whig |
| 1826 | Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough | Amhleidiol |
| 1830 | Charles Griffith-Wynne | Tori |
| 1832 | Thomas Assheton Smith II | Tori |
| 1834 | Thomas Assheton Smith II | Ceidwadwr |
| 1837 | John Ormsby-Gore, (Arglwydd 1af Harlech wedyn) | Ceidwadwr |
| 1841 | Edward Douglas-Pennant, (Arglwydd 1af Penrhyn wedyn) | Ceidwadwr |
| 1866 | George Douglas-Pennant, (2il Arglwydd Penrhyn wedyn) | Ceidwadwr |
| 1868 | Syr Love Jones-Parry | Rhyddfrydwr |
| 1874 | Yr Anrh. George Douglas-Pennant, (2il Baron Penrhyn wedyn) | Ceidwadwr |
| 1880 (Ebrill) | Watkin Williams | Rhyddfrydwr |
| 1880 (Rhagfyr) | William Rathbone | Rhyddfrydwr |
| 1885 | Etholiad Cyffredinol: Diddymwyd yr etholaeth | |
| 1918 | Etholiad Cyffredinol:Ailsefydlwyd yr etholaeth | |
| 1918 | Charles Edward Breese | Rhyddfrydwr Cynghreiriol |
| 1922 | Robert Jones | Llafur |
| 1923 | Goronwy Owen | Rhyddfrydwr |
| 1945 | Goronwy Roberts | Llafur |
| 1950 | Etholiad Cyffredinol: Diddymwyd yr etholaeth am yr ail dro |