Arfon (etholaeth)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:43, 6 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Arfon yw enw'r etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan ar gyfer rhan o Uwchgwyrfai.

Yn wreiddiol pan roddwyd yr hawl i Gymru gael aelodau seneddol ym 1536, roedd dwy etholaeth yn y sir, sef sedd y sir (Sir Gaernarfon) oedd yn cynnwys pob man o Lithfaen yn y dwyrain hyd Aberdaron yn y gorllewin, heblaw am rai bwrdeistrefi. Yr ail sedd oedd Bwrdeistrefi Sir Caernarfon (sedd a gynrychiolid gan David Lloyd George ymhen amser); bwrdeisiaid Bangor, Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli oedd yn cael pleidleisio yn yr etholaeth honno.

Ym 1885, gyda phoblogaeth y sir yn tyfu, rhannwyd etholaeth y sir yn ddwy, sef etholaethau Arfon ac Eifion (etholaeth). Roedd yr hen etholaeth Arfon honno'n cynnwys y rhan o'r sir sydd yn ymestyn o Lanberis a Bangor hyd at ffin ddwyreiniol y sir, ac nid oedd dim o'r etholaeth honno yn Uwchgwyrfai.

Unwaith eto, ail-ffurfiwyd dwy etholaeth y sir yn un ym 1918, gan eu rhannu eto ym 1950, gan ffurfio etholaethau Caernarfon a Chonwy. Ym 2010, cafwyd ail-drefnu pellach a ffurfiwyd etholaeth newydd Arfon. Ffiniau etholaeth yr Arfon newydd yw Dyffryn Ogwen, Bangor, Caernarfon, a Dyffrynnoedd Peris, Gwyrfai a Nantlle, yn cynnwys y tri phlwyf mwyaf gogleddol yn Uwchgwyrfai, sef Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.[1] Heblaw am ddwy etholaeth yn yr Alban, dyna yw etholaeth leiaf o ran poblogaeth trwy wledydd Prydain. O'r dechrau, Hywel Williams oedd, ac yw, yr aelod Seneddol. Sian Gwenllian yw'r aelod yn Senedd Cymru. Ei rhagflaenydd oedd Alun Ffred Jones.

Mae sôn (2020) bod ffiniau etholaethau yn mynd i newid eto yn fuan, ac y tebygrwydd bydd Bangor hefyd o fewn yr etholaeth gan y bydd y ddeddfwraieth yn gofyn am etholaethau sydd yr un faint o ran nifer yr etholwyr.


Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia ar Etholaeth Arfon, [1], cyrchwyd 6.5.2020