Castell Cidwm

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:09, 4 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae rhai wedi honni fod Castell Cidwm yn ryw fath ar amddiffynfa hynafol. Mae'n sefyll ger ochr ddwyreiniol Craig Cwmbychan uwchben Llyn Cwellyn. Fodd bynnag, mae archaeolegwyr mwy cyfoes yn gwadu'r ffaith ei fod yn heneb a wnaed gan ddyn, gan ddweud ei fod yn nodwedd naturiol, er gwaethaf y ffaith fod mapiau Ordnans yn rhoi enw Castell Cidwm mewn llythrennau arbennig i ddangos heneb o ryw fath.[1]

Mae'r plasty bychan a elwir yn Gastell Cidwm wedi bod yn westy tan yn bur ddiweddar a bwriad perchennog newydd yr adeilad, y miliwnydd o Ddinbych Lawrence Jones, yw ei droi'n westy o safon uchel.[2] Nid yw'r tŷ hwn yn Uwchgwyrfai, fodd bynnag, gan ei fod yn sefyll yr ochr draw i Afon Gwyrfai wrth fala Llyn Cwellyn, ac felly yng nghwmd Isgwyrfai.

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.533
  2. Daily Post, 29.11.2016