Gorsaf reilffordd Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:10, 23 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio


Gorsaf Nantlle oedd unig orsaf ar y gangen fer o orsaf Pen-y-groes i Dal-y-sarn. Fe'i hagorwyd ym 1872. Mewn gwirionedd, yn Nhal-y-sarn yr oedd yr orsaf ac mae'r adeilad yn sefyll hyd heddiw fel rhan o'r ganolfan gymunedol. Fe gaeẅyd y lein i deithwyr mor gynnar â 1932, ond parhaodd trenau nwyddau i ddefnyddio'r lein er mwyn cludo llechi oddi yno (a man nwyddau yno hefyd) hyd 1963.

Roedd yna seidins helaeth, yn bennaf ar gyfer trosglwyddo llechi a gludid o'r chwareli gan Reilffordd Nantlle. Fe ffurfiwyd y rhain ar batrwm glanfeydd, gyda chledrau'r lein fawr ar lefel is na chledrau y dramffordd a ddefnyddid i lusgo llechi o'r chwareli yn uwch i fyny'r dyffryn, a hynny trwy ddefnyddio ceffylau. Y lein fach honno (gweddillion Rheilffordd Nantlle) oedd y darn olaf o'r rheilffordd wladoledig, sef Rheilffyrdd Prydeinig, i ddefnyddio ceffylau yn lle locomotifau.

Tua 550 llath cyn cyrraedd gorsaf Nantlle, roedd seidin Tan'rallt lle llwythwyd llechi o chwarel Tan'rallt yr ochr arall i'r dyffryn. Rhedai lein fach o'r chwarel ar draws y dyffryn at y seidin honno. Gorsafoedd rheilffordd