Capel Horeb (W), Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:36, 3 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd Capel Horeb a welir heddiw ar Ffordd y Sir, Pen-y-groes ym 1878 a dathlwyd ei ganmlwyddiant ym 1978, pan gyhoeddwyd llyfryn i ddathlu'r achlysur.[1]

Fodd bynnag, roedd presenoldeb Wesleyaeth ym Mhen-y-groes yn y 1830au (gweler yr erthygl ar Wesla Bach Llanllyfni) ond aeth yr achos i lawr oherwydd rhaniadau, a gwerthwyd y capel i'r Calfiniaid ym 1847. Arhosai ambell i aelod yn anfodlon i symud at enwad arall, ond rhaid disgwyl tan 1865-6 pan ddynododd Cyfarfod Cyllidol Wesleaid y Gogledd Ben-y-groes fel gorsaf y genhadaeth gartref.[2] Meddai sylwebydd yn y cyfarfod hwnnw: "yr oedd yn wir dda gennyf glywed y cais o Gaernarfon am genhadwr cartrefol, er mwyn ceisio cychwyn achos yn Penygroes, Llanllyfni, lle y mae galw taer amdanom, ac angen mawr am ein gwasanaeth."[3] Erbyn yr 1860au, roedd y Calfiniaid wedi codi capel newydd crand gerllaw ac ym 1866, cymerwyd yr hen gapel yn ôl ar gost rhwng y pryniant ac atgyweiriadau o ryw £100 ym Mhen-y-groes, pan ddywedwyd bod "Wesleyaeth eto yn cael ei phlanu yn yr ardal", a hynny gyda wythnos o bregethau a chyfarfodydd. Yn yr adroddiad yn yr Eurgrawn Wesleyaidd, fodd bynnag, nis enwir y capel.[4]

Caewyd yr achos yn weddol fuan wedyn, ac ar ôl cael ei werthu, trowyd y capel yn fflatiau.

Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Horeb.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD34/669
  2. Eurgrawn Wesleyaidd, (Cyf.58, 1866), t.126
  3. Eurgrawn Wesleyaidd, (Cyf.57, 1865), t.467
  4. Eurgrawn Wesleyaidd (Cyf.58, 1866), t.347