Capel Horeb (W), Pen-y-groes
Adeiladwyd Capel Horeb a welir heddiw ar Ffordd y Sir, Pen-y-groes ym 1878 a dathlwyd ei ganmlwyddiant ym 1978, pan gyhoeddwyd llyfryn i ddathlu'r achlysur.[1]
Fodd bynnag, roedd presenoldeb Wesleyaeth ym Mhen-y-groes yn y 1830au (gweler yr erthygl ar Wesla Bach Llanllyfni) ond aeth yr achos i lawr oherwydd rhaniadau, a gwerthwyd y capel i'r Calfiniaid ym 1847. Arhosai ambell i aelod yn anfodlon i symud at enwad arall, ond rhaid disgwyl tan 1865-6 pan ddynododd Cyfarfod Cyllidol Wesleaid y Gogledd Ben-y-groes fel gorsaf y genhadaeth gartref.[2] Erbyn yr 1860au, roedd y Calfiniaid wedi codi capel newydd crand gerllaw ac ym 1866, prynwyd yr hen gapel yn ôl ar draul o ryw £100 ym Mhen-y-groes, pan ddywedwyd bod "Wesleyaeth eto yn cael ei phlanu yn yr ardal", a hynny gyda wythnos o bregethau a chyfarfodydd. Yn yr adroddiad yn yr Eurgrawn Wesleyaidd, fodd bynnag, nis enwir y capel.[3]
Caewyd yr achos yn weddol fuan wedyn, ac ar ôl cael ei werthu, trowyd y capel yn fflatiau.
Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Horeb.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma