Chwarel Parc Dudley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:29, 22 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Chwarel Parc Dudley yn chwarel ithfaen ar lethrau isaf Moel Smytho, ger Gorsaf reilffordd Waun-fawr. Fe'i hagorwyd yn y 1920au ond gweddol fyr fuodd hi'n cael ei defnyddio;y perchnogion oedd cwmni o ardal Wolverhampton.. Roedd peiriant malu carreg yn y chwarel, ac arllwysfa islaw i lwytho wagenni rheilffordd tra pharhaodd gwasanaethau ar y lein fach, ac wedyn lorïau. Mae nifer o olion diddorol yn dal yn y chwarel sydd bellach wedi ei diogelu fel gwarchodfa natur ers 1994. Mae llwybrau difyr wedi eu creu er mwyn i'r cyhoedd ddarganfod nodweddion y safle.