Alfred Henderson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:15, 30 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gŵr o Nantlle oedd AlfreGwall cyfeirio: Mae tag clo </ref> ar goll ar gyfer y tag <ref> </ref> Cafodd ei eni yn Sir Gaernarfon i Margaret (ganed 1869, Beddgelert) a William Henderson (ganed 1869, Llanrug), Cae Goronwy, plwyf Llandwrog. Chwarelwr oedd y tad, yn fab i John Henderson, tafarnwr a chasglwr tollau a aned yn yr Alban tua 1833 ond a oedd erbyn 1871 yn byw yng Nghaeathro, ac Anne, a hanai o Feddgelert. Erbyn 1881 roedd y teulu gyda'u saith plentyn wedi symud i gyffiniau Rhosgadfan a'r tad bellach yn labrwr mewn chwarel lechi. Bu farw tua1898-9.[1] Ail briododd Margaret ym 1901 (ar ôl marwolaeth William) ym 1901 â Richard Williams, gŵr o Gastell-nedd, Sir Forgannwg, yn 10 Rhes Nantlle. Diddorol yw nodi o Gyfrifiad 1911 fod pawb yn y tŷ yn uniaith Gymraeg.[2]

Dichon ei fod hefyd yn medru canu'n foddhaol gan fod y cofnod canlynol i'w weld yn yr Herald Cymraeg:

ORIG GYDA CHEIRIOG.—Treuliwyd Cymdeithas Baladeulyn, nos Iau, i fwynhau Ceiriog a'i weithiau. Cafwyd papur arno gan Mr. G.W. Francis, a darllenodd lawer o'i weithiau, a chanodd gân o'i eiddo. Hefyd cafwyd caneuon ac adroddiad o weithiau y bardd gan Miss Maggie Powell, Mri Alfred Henderson a Llew Deulyn, ynghyd â chanu dau emyn o'i eiddo dan arweiniad Mr. W. T. Williams.[3]

Yn nes ymlaen dychwelodd i ardal Dyffryn Nantlle. Erbyn 1939, roedd yn byw yn Eryri House, Tal-y-sarn ac yn gweithio fel dilledydd ac yn glerc i Ysgol y Cyngor ym Mhen-y-groes.Erbyn hynny, roedd yn ŵr gweddw, ond ym 1941 fe briododd Alice Gwendolen Nicklin o Gaernarfon; cyn hynny roedd hi'n cadw tŷ i Alfred.[4] Ym 1947 fe arweiniodd band a oedd yn gyfuniad o fandiau Moeltryfan a Seindorf Dyffryn Nantlle pan gystadlodd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn.[5]

Bu farw mor ddiweddar a 4 Mawrth 1979. Erbyn hynny, roedd yn byw yn 1 Rhes Victoria, Nantlle. Fe adawodd waddol go lew i'w etifeddion, sef dros £17000.[6]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth o gyfrifiadau 1871-1891
  2. Cyfrifiadau 1901 a 1911, Llandwrog.
  3. Herald Cymraeg, 10 Mawrth 1914, t.,5
  4. Cofrestr Gwyrfai, 1939
  5. Erthygl Cof y Cwmwd ar fandiau Uwchgwyrfai.
  6. Rhestr o marwolaeth a phrofiannau'r Llywodraeth, 1979