Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd
Roedd Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd yr Eglwys Bresbyteraidd (neu'r Methodistiaid Calfinaidd) yn cynnwys tiriogaeth cantref Llŷn a chwmwd Eifionydd. Yr oedd dau neu dri o gapeli Uwchgwyrfai hefyd yn gynwysedig, sef Capel Tai Duon (MC), Capel Pant-glas (MC) a Chapel Bwlch Derwin dichon oherwydd ei bod yn nes at Eifionydd nag at ran helaethaf capeli Calfinaidd Henaduriaeth Arfon.