Ifor Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:43, 27 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Delwedd:Sir Ifor Williams (1881 -1965) .png

Ganed Syr Ifor Williams (1881-1965) i deulu o chwarelwyr llechi yn Nhregarth ger Bangor. Bu'n wael iawn ac yn orweddiog am flynyddoedd yn ystod ei arddegau, ond wedi iddo wella fe aeth yn ddisgybl i Ysgol Ragbaratoawl Clynnog ym 1901, gyda golwg ar fynd i'r weinidogaeth Galfinaidd, ond y flwyddyn ganlynol enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd mewn Groeg a'r Gymraeg. Bu'n ddarlithydd o 1907 ymlaen ym Mangor o dan Syr John Morris-Jones, ac o 1920 hyd ei ymddeoliad ym 1947 fe fu'n Athro yn yr adran Gymraeg yno. Fe'i anrhydeddwyd gan y sefydliad Prydeinig am ei waith ysgolheigaidd trwy ei wneud o'n farchog yr un flwyddyn.

Mae'n nodedig am ei holl waith ysgolheigaidd yn golygu ac egluro testunau barddoniaeth gynnar Gymraeg, yn cynnwys Canu Aneirin a Chanu Taliesin. Rhoddir crynodeb lawn o'i holl waith a'i ddylanwad ar ysgolheigtod Cymru gan Syr Thomas Parry yn Y Bywgraffiadur, sydd ar gael ar lein. Bu hefyd yn gyfrifol am waith ar enwau lleoedd, nifer helaeth o sgyrsiau radio, a sawl llyfr o ysgrifau mwy ysgafn eu naws na'i waith ysgolheigaidd.

Roedd wedi priodi Myfanwy Jones, Cae-glas, Pontlyfni ym 1913, ac ar ôl byw ym Mhorthaethwy tra'n gweithio, fe ymddeolodd i dŷ ym Mhontlyfni, lle bu farw ym 1965, a'i gladdu ym mynwent Brynaearau gerllaw.

Merch iddo oedd Gwenno Caffell, arbenigwraig ar gelf chwarelwyr Dyffryn Ogwen.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, 1951-1970 (Llundain, 1997), tt.235-7