Tollborth Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:41, 27 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai tollborth Dolydd ar y ffordd dyrpeg rhwng Ffingar, Llanwnda a Phen-y-groes, yn ardal Dolydd, plwayf Llanwnda. Gyferbyn â'r dollborth yr oedd Efail Dolydd, gyda'r giât neu lidiart rhwng y ddau adeilad. Mae'n debyg y codwyd y tŷ toll yn unswydd ar gyfer y gwaith. Ar ol i'r ffyrdd tyrpeg gael eu rhyddhau a dim angen bellach am godi toll ar deithwyr, symudodd ffermwr Hendre y codwyd y tŷ ar gornel tir y fferm, i mewn i'r tŷ, gan fod hen blas yr Hendre'n dadfeilio. Pan symudodd teulu'r fferm allan i dŷ newydd pwrpasol ym 1919, rhoddwyd yr enw "Y Bwthyn" ar y tŷ. Fe'u chwalwyd ym mlynyddoedd olaf y 20g, er mwyn codi tŷ modern (gyda'r un enw) ymhellach o'r ffordd.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol