Band Moeltryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:56, 21 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffurfiwyd Band Moeltryfan reit ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ym mhentref Rhosgadfan. Ei enw cyntaf oedd Seindorf Pen-y-ffridd ac arferai ymarfer, yng ngolau'r gannwyll, yn hen warws flawd Bryn Crin, Rhosgadfan. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach newidiodd ei enw i Seindorf Moeltryfan. [1]

Ym 1930 newidiwyd y band o fod yn fand pres i fod yn fand arian, h.y. rhoddwyd 'golchiad arian' (silver plating) i'r cyrn. Hyn oedd ffasiwn y cyfnod ac fe swniai 'band arian' yn llawer crandiach a llai coman na 'band pres', ac yn enwedig yn Saesneg ! Felly, rhaid oedd newid enw'r band yn ogystal, y tro hwn yn Cadfan - yr enw yn Saesneg, sef Cadvan Silver Band.

Dyma enwau rhai o arweinyddion y band :

1. William T. Sarah, Tal-y-sarn / Nantlle ;

2. Owen Hughes, Garreg Wen ;

3. Hugh Hughes, mab Owen Hughes ;

4. Morgan J. Jones, Tal-y-sarn / Nantlle ;

5. Solomon Jones (Alaw Cadfan), Rhosgadfan.

Fel rheol, arweinydd proffesiynol y band oedd Harry Heyes, arweinydd enwog Seindorf Dyffryn Nantlle.

Bu adran bâs sefydlog yn y band dros nifer helaeth o flynyddoedd - William Griffiths (Hen Ŵr), John Jones, Ty'n Graig, Edwin Hughes a Solomon Jones (Alaw Cadfan). [2]

Ymysg yr aelodau yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd roedd William Hughes (Iwffoniwm), Thomas Williams (Tomi Meinar neu Twm Trombôn fel y'i gelwid), Gwilym Evans, Lewis Owen a'i frawd, Tyddyn Difyr.

Wedi marwolaeth Solomon Jones (yn 47 oed) ym 1936, dirywiodd y band yn gyflym iawn, a bu farw - braidd yn ddialar.

Wedi'r Ail Ryfel Byd, ceisiwyd ail-ennyn y fflam. Unodd gweddill y band â gweddill Seindorf Dyffryn Nantlle gan ffurfio un band i gystadlu (yn aflwyddiannus) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bae Colwyn, ym 1947 dan arweiniad Alf Henderson, arweinydd Band Nantlle. Y darn prawf oedd Pride of the Forest (J.A.Greenwood). Daeth y band yn bedwerydd allan o naw. Wedi hynny diflannodd Seindorf Arian Cadfan am byth.

Fodd bynnag, bu rhyw hanner dwsin o'r hen offerynnau (gwneuthuriad Soltron) yn gorwedd yn fud am dros chwarter canrif dan lwyfan Neuadd Rhosgadfan. Yn y diwedd, fe'u rhoddwyd yn rhodd i Bwyllgor Addysg Gwynedd i'w defnyddio mewn gwersi offerynnol a delid amdanynt gan yr Awdurdod, yn bennaf yn Ysgol Rhosgadfan. Rhyw dri yn unig o'r cyrn y llwyddwyd i'w hadfer.


Cyfeiriadau

  1. Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 t.43
  2. Canrif y Chwarelwr gan Emyr Jones 1963