William Farren

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:28, 20 Chwefror 2020 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd William Farren (g.1839) yn frawd iau i George Farren ac yn gyd-berchennog a cyd-reolwr chwareli Trefor yua diwedd y 19g.

Mae Cyfrifiad 1901 yn dangos fod ganddo wraig iau o lawer na fo ei hun, sef Isabel, dynes o Iwerddon a aned ym 1868, a dau o blant William Ignatius G, a aned ym 1892 ym Mangor, a Reginald Joseph a aned ym 1896 yng Nghaernarfon. Fe ddangosir y Cyfrifiad ym 1901 nad oedd neb o'r teulu'n gallu siarad Cymraeg.[1] Erbyn 1911, roedd William y mab yn yr R.A. College, Cirencester,[2] ar ôl cvyfnod yng Ngholeg Stonyhurst. Bu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar ôl cyrraedd y ranc o Liwtenant yn y Ffiwsilwyr Cymreig.[3] Arhosai Reginald gyda'i fam yng Nghaernarfon, gan barhau i fyw yn "The Mount", Lôn Priestley, Caernarfon hyd o leiaf 1939, pan nodwyd fod Reginald yn anabl a ddim yn gweithio.[4]

  1. Cyfrifiad 1901, RG13/5272
  2. Cyfrifiad 1911
  3. Gwefan War Memorials Register, [1], cyrchwyd 20.02.2020
  4. Rhagolwg Cyfrifiad 1939, Gwefan Find My Past, (RG101/7530D/005/11) cyrchwyd 20.02.2020