Setiau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:05, 18 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae setiau yn flociau sgwar o ithfaen a naddwyd i'w siâp. Yn Uwchgwyrfai, Trefor oedd canolfan gwneud setiau, ac fe'i hallforiwyd o harbwr y fan honno yn ei miloedd a miliynau. Cerrig palmantu yw setiau, a ddefnyddid yn bennaf mewn trefi a dinasoedd megis Lerpwl a Manceinion i wynebu strydoedd dinesig. Maent yn gwisgo'n galed ac yn creu arwyneb haws i'w gosod a chynnal na arwyneb cerrig mân (cobblestones).