H.E. Jones (Hywel Cefni)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:28, 17 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Hugh Evan Jones (ganwyd 1859), a adweinid fel Hywel Cefni, ei enw barddol, yn wreiddol o Langefni, Ynys Môn. Roedd yn ddilledydd a gwerthwr dillad yn Cefni House, pentref Tal-y-sarn. Bu i'w nith briodi John Sarah (Pencerdd Cernyw) rywbryd ar ôl 1911, ac aeth y ddau at Hywel Cefni i fyw, a dywedir i John Sarah ymgymryd â phrentisiaeth er ei fod yn ei 30au erbyn hynny.[1]

Dyma englyn o'i waith:

Wawr dlos gan aur dlysau i gyd - a'i harddwch
       Cerdda fel o'r Gwynfyd;
     Gwyryfol egyr hefyd
     Y dwyrain borth i deyrn byd.  (1910)[2]

Mae'n amlwg o'r mynych gyfeiriadau ato ym mhapurau newydd yr ardal ei fod yn arweinydd poblogaidd ar gyfarfoidydd diwylliadol ac yn siaradwr ac ymgyrchydd ar ran achos dirwest.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Llanllyfni 1911
  2. Papur Pawb, 29 Hydref 1910, t.3