H.E. Jones (Hywel Cefni)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:22, 17 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Hugh Evan Jones (ganwyd 1859), a adweinid fel Hywel Cefni, ei enw barddol, yn wreiddol o Langefni, Ynys Môn. Roedd yn ddilledydd a gwerthwr dillad yn Cefni House, pentref Tal-y-sarn. Bu i'w nith briodi John Sarah (Pencerdd Cernyw) rywbryd ar ôl 1911, ac aeth y ddau at Hywel Cefni i fyw, a dywedir i John Sarah ymgymryd aphrentisiaeth er ei fod yn ei 30au erbyn hynny.[1]

Dyma englyn o'i waith:

Wawr dlos gan aur dlysau i gyd - a'i harddwch
       Cerdda fel o'r Gwynfyd;
     Gwyryfol egyr hefyd
     Y dwyrain borth i deyrn byd.  (1910)[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Llanllyfni 1911
  2. Papur Pawb, 29 Hydref 1910, t.3