John Sarah (Pencerdd Cernyw)
Roedd John H. Sarah, a urddwyd trwy arholiad i'r Orsedd ym 1918 ac a arddeliai'r ffugenw Pencerdd Cernyw, yn fab i Tom Sarah ac yn frawd i Mary King Sarah. Un o Dal-y-sarn ydoedd, ac am flynyddoedd lawer bu'n aelod o Seindorf Arian Dyffryn Nantlle. Priododd â Miss M.E. JOnes, nith H.E. Jones (Hywel Cefni),gwerthwr dillad, a bu'r cwpl yn byw gyda hwnnw. Er yn ddyn swil yn ôl pob sôn, fe ymgymerodd â'r swydd o godwr canu yn Seion, Tal-y-sarn wedi i'w rieni a'i chwiorydd ymfudo i America i fod yn nes at ei chwaer enwog, y gantores Mary King Sarah.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Y Dinesydd Cymreig, 10 Gorffennaf 1918, t. 5