R. Alun Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:55, 18 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Athro llysieueg ac amaethyddiaeth, a naturiaethwr oedd R. Alun Roberts (1894-1969).

Fe'i anwyd yn Glan Gors, Tan-yr-allt, Dyffryn Nantlle i Robert Roberts (brawd Owen, tad i Kate Roberts) a Jane Thomas ei wraig.

Graddiodd â BSc gydag anrhydedd yn 1915, a chwblhaodd PhD yn 1927. Roedd yn athro gwyddoniaeth am gyfnod yn Ysgol Botwnnog (1915-1917), ac roedd yn gweithio i’r Weinyddiaeth Amaeth o 1917-1919. Roedd yn ymgynghori ar lysieueg ac amaeth iddynt hyd nes 1921. Cafodd swydd fel darlithydd, ac yna fel pennaeth adran yn adran amaeth Prifysgol Bangor. Aeth ymlaen wedyn i fod yn Arolygydd ei Mawrhydi dros ysgolion gwledig.

Roedd hefyd yn uchel-siryf Caernarfon rhwng 1955 a 1956. Derbyniodd CBE yn 1962 am ei gyfraniad at amaethyddiaeth. Cyhoeddodd Welsh Homespun (1930), gwaith arloesol ar hanes amaethyddol a gwledig Cymru trwy'r oesoedd; Y Tir a’i gynnyrch (1932), un o gyfres o lyfrau gan Wasg Prifysgol Cymru a gyhoeddwyd ar gyfer dosbarthiadau oedolion yn bennaf; a Hafodydd Brithion (1947), casgliad o ysgrifau ar yr amgylchedd, bywyd gwledig a byd natur. Cyhoeddwyd hefyd nifer o'i ddarlithoedd ar fywyd gwledig.

Ffynhonellau

  • Williams, Melfyn R. Doctor Alun, Bywyd a gwaith yr Athro R. Alun Roberts (Lolfa, 1977)