Smac yr ''Ellen Glynne''
Yr Ellen Glynne oedd un o'r ddwy long a wyddys amdanynt a godwyd yn Y Foryd. Fe'i hadeiladwydd ym 1843, yn llong weddol fach am ei hamser, yn 37 tunnell o ran tunelledd. Ei hadeiladydd oedd Thomas Edwards, a dichon ei bod wedi ei henwi ar ôl aeres olaf Teulu Glyn, Glynllifon neu'r Ellen Glynne a sefydlodd elusendai yn Llandwrog.Fe'i chollwyd rhwng Duddon a Saltney ym 1867. [1]
Cyfeiriadau
- ↑ David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206