Sam Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:44, 10 Chwefror 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saer coed oedd Samuel Roberts yn gweithio yn Chwarel yr Eifl, Trefor.

Fe'i ganwyd ym 1861 yn Llanrwst a daeth i Drefor o Lanfairfechan. Ym 1880 priododd ag Elizabeth Williams, athrwes yn Ysgol Trefor, a chwaer John Edward Williams, prifathro cynta'r ysgol ym 1878. Roedd Sam Roberts yn aelod selog o Eglwys San Siôr ac yn un o'r rheiny a fu'n amlwg yn y symudiad i adeiladu'r eglwys yn y cyfnod 1879-81.

Roedd yn denorydd o gryn fri pan oedd yn ifanc a chanai'n rheolaidd mewn cyngherddau. Yn ogystal, roedd yn fardd pur dda ac yn gynganeddwr medrus. Un o'i gyfeillion pennaf yn Nhrefor oedd Henry T. Jones, 2 Farren Street, ac roedd y ddau yn aelodau blaenllaw o'r Fyddin Ddirwestol. Bu farw Henry'n ŵr ifanc yn Rhagfyr 1888, a chyfansoddodd Sam Roberts dri englyn er cof amdano.


Ei daro gadd Harri dirion - ow, sydyn

Ymosodiad creulon ;

Dwyn ymaith ieuanc, llanc llon,

O'r golwg, braw i'r galon.


Yn wastad ffyddlon ddirwestwr, - selog

Dros hawliau'r gwrthodwr ;

Y cyntaf oedd fel cantwr

I yrru'n dân - rin y dŵr.


Yn y côr fel byddai'n canu, - arwydd

Gwna'i orau er dysgu ;

I uwch man gyda'i gân gu ;

E' groesodd at gôr Iesu.


Cyn diwedd y ganrif fe ymfudodd Samuel Roberts, fel llawer iawn o'i gyd-weithwyr i America.