William Jones, Llwy-pric

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:18, 10 Chwefror 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarelwr oedd William Jones oedd hefyd yn dyddynwr yn Llwy-pric, Trefor, ar lethrau gogleddol mynyddoedd yr Eifl. Roedd ef yn un o weithwyr cynta'r chwarel ganol y 19eg ganrif.

Fe'i ganwyd yn Llangian, Llŷn, ym 1799 a daeth i fyw i Drefor (Hendre bryd hynny) pan briododd â Catherine Jones o Glynnog Fawr yn Arfon.

Cyfansoddodd nifer o gerddi, ac yn arbennig emynau, ond hyd y gwyddom dau bennill yn unig sydd wedi goroesi. Fe'u ceir yn Atgofion (heb eu cyhoeddi) Hugh Williams, Tai Newyddion, Trefor, mab Hugh Williams, Cwm (sydd am y terfyn â Llwy-pric). Dywedir y byddai gwraig H.W. Cwm "yn eu swnio'n aml".

Pennill 1

Dwy fflam ar ben Calfaria

Gwrddasant yno 'nghyd -

Flam cariad at bechadur,

Fflam goch o ddwyfol fyd.

A'r mwg yn mynd i fyny

Nes cyrraedd hyd y nen,

A'r Iesu rhwng y ddwyfflam

Yn marw ar y pren.


Pennill 2

Cofio 'rwyf yr awr ryfeddol,

Awr wirfoddol oedd i fod,

Awr a nodwyd cyn bod Eden,

Awr a'i diben wedi dod.

Awr wynebu ar un aberth,

Awr y Duw i wirio'i nerth.

Hen awr annwyl prynu cariad,

Awr y gwaed, pwy ŵyr ei werth ?