William Roberts (Gwilym Glasgoed)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:46, 6 Chwefror 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd William Roberts yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn o 13 Rhagfyr, 1954 hyd 30 Medi, 1974.

Brodor o Benisa'rwaun. Graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Cymru (Bangor) ym 1939, ac yna bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan. Fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1941 ac yn offeiriad ym 1942.

1941-44 : Curad Llanwnda gyda Llanfaglan

1944-48 : Curad Blaenau Ffestiniog

1948-54 : Rheithor Llanddona gyda Llaniestyn a chapel preifat Wern yr Wylan

1954-74 : Rheithor Llanaelhaearn

Ymddeolodd ym 1974 ac aeth i fyw i Derlwyn, Trefor

Roedd William Roberts hefyd yn barddoni'n gyson a bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol fwy nag unwaith e.e. Emyn Priodas yn Eisteddfod y Barri 1968.

Ei enw barddol oedd Gwilym Glasgoed.