Cors-y-ddalfa

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:20, 3 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cors-y-ddalfa yn rhan o dir agored tua 310 metr uwchben lefel y môr ym mhen uchaf Cwmgwara, Clynnog Fawr. Mae'r Afon Hen yn llifo o'r gors i lawr Cwmgwara a thrwy pentref Gurn Goch. Mae'n ardal gwbl anghysbell ond ceir yn ei ymyl hen waith manganîs Cors-y-ddalfa, na wyddys fawr am ei hanes. Prin bod y gwaith wedi bod yn fwy na chloddfa gychwynnol i ganfod y mwyn.

Mae olion hen gwt crwn o gyfnod cynhanesyddol i'w gweld yno.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

[[Categori: ]]