Mast Nebo
Adeiladwyd Mast Nebo ym 1962 i wella derbyniad teledu annibynnol yng ngogledd-orllewin Cymru.[1] Saif ar ben bryn i'r de o bentrefi Nebo a Nasareth ym mhlwyf Llanllyfni. Erbyn hyn mae'n drosglwyddo rhaglenni teledu a radio digidol a radio FM nifer helaeth o ddarparwyr; hefyd mae'n rhan o rwydwaith trosglwyddo'r gwasanaethau brys ac mae sawl gwmni ffonau symudol yn defnyddio'r mast hefyd. Mae'r mast yn 317.4 m (1,041 troedfedd) o uchder, sy'n golygu mai dyma'r strwythur dynol uchaf yng Nghymru (a'r chweched uchaf trwy Brydain).
Bu'r safle'n ffocws ar gyfer nifer o brotestiadau gan Gymdeithas yr Iaith - yn 1972 a 1973 pan ddringodd nifer o'i haelodau'r mast ei hun fel rhan o'r ymgyrch hir a chwerw i sicrhau sianel deledu Gymraeg;[2] ac yn fwy diweddar yn 2011 pan ddringodd Bethan Williams a Robin Crag i ben yr orsaf ei hun fel rhan o ymgyrch am well ddarpariaeth ddarlledu yn y Gymraeg.[3]
Ffynnonellau
- ↑ Wikipedia, Cyrchwyd 15.11.2017 https://en.wikipedia.org/wiki/Arfon_transmitting_station
- ↑ Cymdeithas yr Iaith, S4C - Pwy dalodd amdani?(1985)
- ↑ https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/41799-ymgyrchwyr-yn-dringo-gorsaf-drosglwyddo