Y Seler Ddu
Y Seler Ddu yw enw'r cwm serth sydd yn gorwedd ar lethrau dwyreiniol Mynydd Bwlch Mawr gyferbyn â Hengwm. Tir diffaith a charegog sydd yno gyda phorfa ar gyfer defaid. Yno mae un o flaennentydd Afon Dwyfach yn codi.
Bu gwaith cloddio am fanganîs yno yn y gorffennol, ac er bod yr hanes yn brin, mae sicrwydd i'r gwaith fod ar fynd 1872-6 pan oedd un John Cowper yn gapten ar y gwaith. Ni ddefnyddid unrhyw ffrwydron yn y gwaith, dim ond ceibiau'n unig. Mae'r gloddfa'n nodedig am y ffordd unigryw o gynnal to'r gwaith, sef trwy godi pileri o gerrig sychion.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma