Y Seler Ddu
Y Seler Ddu yw enw'r cwm serth sydd yn gorwedd ar lethrau dwyreiniol Mynydd Bwlch Mawr gyferbyn â Hengwm. Tir diffaith a charegog sydd yno gyda phorfa ar gyfer defaid. Yno mae un o flaen-nentydd Afon Dwyfach yn codi. Mae'n bosibl y daw'r enw o'r ffaith mai gwawr ddu sydd ar graig sy'n cynnwys manganîs.
Bu gwaith cloddio am fanganîs yno yn y gorffennol, ac er bod yr hanes yn brin, mae sicrwydd i'r gwaith fod ar fynd rhwng 1872-6 pan oedd un John Cowper yn gapten ar y gwaith. Ni ddefnyddid unrhyw ffrwydron yn y gwaith, dim ond ceibiau'n unig. Mae'r gloddfa'n nodedig am y ffordd unigryw o gynnal to'r gwaith, sef trwy godi pileri o gerrig sychion.[1]
Mae un fersiwn o hanes Cilmyn Droed-ddu yn honni mai yn y Seler Ddu y daeth o hyd i'r ffortiwn a oedd yn gychwyniad llewyrch Teulu Glynllifon, er i'r hanes fel rheol gael ei briodoli i lethrau'r Eifl.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma