Tafarn y Goat, Llanwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:37, 16 Rhagfyr 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Tafarn y GOat, Llanwnda tua 1910

Roedd Tafarn y Goat (ni alwodd neb y lle'n "Afr") yn Llanwnda oedd y dafarn a wasanaethai yr orsaf gerllaw. Roedd yn cael ei gadw am flynyddoedd lawer gan aelodau o'r un teulu Griffith oedd hefyd yn gyfrifol am werthu glo o iard yr orsaf ac yn rhedeg modurdy ar draws y ffordd i'r dafarn. Ym 1889, William Griffith oedd y tafarnwr a'r masnachwr glo.[1] Mae'r adeilad yn sefyll yno o hyd, wedi ei foderneiddio ar ryw adeg, er i'r tu mewn roedd yn parhau ar ei ffurf Fictorianaidd nes iddi gau tua 2004. Bu farw'r olaf i gadw'r dafarn, Ann Griffith, yn 2019.

Nid y Goat oedd unig dafarn y pentref bychan. Codai'r ffordd fawr dros bont y rheilffordd yr ochr Caernarfon i'r Goat, a'r ochr arall i'r boint oedd Tafarn y Railway. Caewyd yn ystod y 20g, ac ar ôl gwasanaethu fel tŷ annedd, fe'i chwalwyd wrth chwalu bont y rheilffordd.

Am flynyddoedd nes iddi gau roedd yn nodedig am gymreictod y gwmnïaeth ac yn gyrchfan i Gymry mwyaf genedlaetholgar y fro - er na chaniateid canu yno!

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

[[Categori:Tafarndai]

  1. Cyfeiriadau Masnach Sutton, 1889-90