Gorsaf reilffordd Betws Garmon
Safai gorsaf Betws Garmon ar lan orllewinol yr Afon Gwyrfai, ac felly ym mhlwyf Llanwnda hyd 1888, er i blwyf Betws Garmon (nid yw yr eglwys ond tafliad carreg yr ochr arall i'r afon) yn blwyf yng nghwmwd Isgwyrfai. Safai ychydig lai na 5 milltir o ben y lein yng ngorsaf Dinas.
Codwyd yr orsaf gan gwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ac fe'i hagorwyd ym 1877. Roedd lŵp yma ar gyfer wagenni nwyddau y tu ol i'r adeilad (y mae ei furddun yn dal yno heddiw). Daeth gwasanaethau i deithwyr i ben ym 1937. Yma hefyd gychwynnodd seidin neu dramffordd i Chwarel Hafod-y-wern, a gaeodd cyn 1920.
Ffynonellau
J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1., (Oakwood Press) 1988, t.194