Gorsaf reilffordd Betws Garmon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:13, 13 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai gorsaf Betws Garmon ar lan orllewinol yr Afon Gwyrfai, ac felly ym mhlwyf Llanwnda hyd 1888, er i blwyf Betws Garmon (nid yw yr eglwys ond tafliad carreg yr ochr arall i'r afon) yn blwyf yng nghwmwd Isgwyrfai. Safai ychydig lai na 5 milltir o ben y lein yng ngorsaf Dinas. |Daeth gwasanaethau i deithwyr i ben ym 1937.

Codwyd yr orsaf gan gwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ac fe'i hagorwyd ym 1878. Roedd lŵp yma ar gyfer wagenni nwyddau y tu ol i'r adeilad (y mae ei furddun yn dal yno heddiw). Yma hefyd gychwynnodd seidin neu dramffordd i Chwarel Hafod-y-wern, a gaeodd cyn 1920.

Ffynonellau

J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1., (Oakwood Press) 1988.